Programmes

Mynyddoedd Y Byd

Documentary

back

Mae S4C yn mynd â ni i ben y byd – mewn cyfres ddogfen ryngwladol sy’n portreadu bywydau pobol y mynyddoedd yn Affrica, Ewrop, Asia a’r Americas.

Mae’r mynyddoedd uchaf yn ysbrydoliaeth ac yn sialens i ddynolryw. A gwydn a dyfeisgar yw bobol yr ucheldiroedd, pobol sy wedi dysgu sut i fyw yno, a chynnal diwylliant arbennig.

Ond islaw, mae’r byd yn cynhesu, mae’r hinsawdd yn newid, a dyw’r mynyddoedd ddim yn sefyll ar wahân i dynged weddill y blaned. Sut beth yw byw yn y mynyddoedd yn 2017, felly?

Yn y gyfres hynod amrywiol a lliwgar hon, bydd chwech o sêr y sgrin yn ein tywys ni i weld tirlun trawiadol ac i gwrdd â chymeriadau gafaelgar ym mynyddoedd enwocaf y byd.

O gopaon Corea, i fryniau’r Rwenzori yn Affrica, o’r Alpau i’r Andes, o’r Rockies i’r Himalaia , dyma hanes byw a bod ym mannau uchel y ddaear.