Y Tîm

Angela Clarke - Cyfarwyddwr

Angela Clarke

Ar hyn o bryd mae Angela yn cyfarwyddo tri episod o gynhyrchiad rhyngwladol Green Bay, Yr Ynys a rhaglen awr ar Stadwim Olympaidd Llundain i National Geographic.

Dechreuodd Angela ei gyrfa teledu gyda Green Bay yn 2004 ar ôl gadael gyrfa ymchwil academaidd meddygol. Wedi cyfnod yn gweithio ar raglenni cenedlaethol symudodd Angela i ymchwilio ar raglenni rhyngwladol yn 2006. Ers hynny mae Angela wedi gweithio fel cynhyrchydd cynorthwyol ar gyd-cynhyrchiad National Geographic ac S4C Yr Afon ac fel cynhyrchydd i raglenni BBC Radio Wales.

Julia Moon - Cyfarwyddwr

Julia Moon

Dechreuodd Julia ei gyrfa ym myd y teledu gyda Green Bay dros chwe mlynedd yn ôl, gan ddechrau yn yr adrannau cyllid a gweinyddol cyn dod yn ymchwilydd yna'n gynorthwy-ydd cynhyrchu ar nifer o raglenni dogfen. Ers hynny mae wedi gweithio llawer yn y broses ddatblygiad ac wedi cynhyrchu amrywiaeth o brosiectau radio. Yn 2009 fe gynhyrchodd a chyfarwyddodd Julia y rhaglen 'The Boy Who Was Born a Girl' ar gyfer cyfres First Cut Channel 4, ac fe gafodd y rhaglen ei henwebu am wobr BAFTA Cymru. Mae hi'n brysur ar hyn o bryd yn cyfarwyddo tairrhaglen o gyfres rhyngwladol Grenn Bay, Yr Ynys.

Rhian Nash - Cynhyrchydd Radio 

Rhian Nash 

Ymunodd Rhian â Green Bay ym mis Medi 2008 yn rhan o raglen hyfforddi Cyfle ar ôl iddi orffen gradd Meistr mewn Cynhyrchiad Radio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn dilyn hynny mae Rhian wedi bod yn ymchwilydd i nifer o gynhyrchiadau teledu a radio i Green Bay. Yn 2009 cynhyrchodd Rhian ei rhaglen radio gyntaf ar gyfer Radio Cymru, 'Panty'.  Mae Rhian bellach wedi cynhyrchu sawl cynhyrchiad i Radio Cymru a Radio Wales. Ar hyn o bryd mae Rhian yn cynhyrchu cyfres 'Be' 'di'r hanes?' i Radio Cymru. 

 Gareth Fisher - Rheolwr Masnachol

Gareth Fisher

Cychwynodd Gareth ei yrfa yn Adran Ddrama BBC Cymru fel Rheolwr Ariannol. Yna  fe symudodd at y llwybr cynhyrchu gan droi ei law at fod yn Reolwr Lleoliad, Rheolwr Uned, a Chynhyrchydd Cynorthwyol. Aeth yn ei flaen i fod yn ben ar nifer o adrannau cynhyrchu gan gynnwys y Newyddion a Materion Cyfoes, Radio, Cerddoriaeth, Celfyddyd, Ffeithiol. 

Bellach yn Reolwr Masnachol i Green Bay, mae hefyd yn gweithio gyda rhai o brif ddarlledwyr y DU ynghyd â llunio perthnasau gyda partneriaid Cyd-Gynhyrchu a gyda'r Gymuned Busnes. Mae ganndo enw da heb ei ail am reoli prosiectau mawr, timau cynhyrchu enfawr a cyllideb sy'n mynd o fewn mynd yn gymaint a miliwn o bunnau.

Michael Davies - Rheolwr Ariannol

Michael Davies

Ymunodd Michael â Green Bay yn 2006. Mae Michael yn gyfrifol am reoli gweithgareddau ariannol y cwmni o ddydd i ddydd, gan gynnwys paratoadau adroddiadau ariannol, adroddiadau cyfrifon misol, cyllidebau a rhagolygon ariannol. Yn ogystal â hyn mae Michael yn gyfrifol am dargedau ariannol ac yn aml yn cysylltu â chyfrifwyr ar materion treth a chydymffurfiaeth ariannol.